1,2,(3,(4)) 1,3. B'le trof fy wyneb, Arglwydd cu, Ond atat ti dy hunan? Pob peth gweledir 'thal e ddim Ond gneuthur imi riddfan. Mi bwysaf atat etto'n nes, Pa les im' ddigaloni? Mae sôn am danat y'mhob man Yn codi'r gwan i fynu. Dysgwyl yr wyf, a hyn bob cam, Fel gwyliwr am y boreu, Gael profi grym dy nefol ras I'm dwyn o'm hadgas feiau. O dwg fy enaid llesg i'r lan, I'r man 'rwyt Ti'n preswylio; Wrth deithio'r anial maith yn hir, 'Rwyf wedi gwir ddyffygio. Mi nesaf atat eto'n nes am danat y'mhob man :: am danat Ti 'mhob man Dysgwyl yr wyf :: Dysgwyliaf mwy
- - - - - B'le tro' fy wyneb, Arglwydd cu, Ond atat Ti dy hunan? Pob peth gweledig, thâl ef ddim, Ond gwneuthur imi riddfan. Os yw'n gofidiau yn y byd I bara hyd y diwedd; O fewn y nef fe dderfydd hyn, Troir tristwch yn orfoledd. Po mwyaf gawn o wres y dydd, Mwy yno fydd ein moliant; Cawn yn lle cystudd byr a dwys, Drag'wyddol bwys gogoniant. Pryd hyn pereiddia Duw o'r bron Holl ddyfroedd chwerwon Mara; Pryd hyn y trŷ pob chwerw nant Yn win i blant Iehofah. Po mwyaf fo'u cyfyngder hwy, Bydd fwy-fwy eu cysuron; Eu hedd melusach na'r dil mêl, A lifa fel yr afon. - - - - - B'le tro'f fy wyneb, Arglwydd cu, Ond atat ti dy hunan? Pob peth gweledig, 'thâl ef ddim, Ond gwneuthur imi ruddfan. Yn dy gyfamod, mae'n fy ngho', Fod myrdd o addewidion, Rhai yn cyhoeddi llwyr iachad, Trwy rin dy wa'd i'r cleifion. 'Rwy'n curo wrth dy borth yn hy Am ddod i mewn i wledda; Nid boddlon wyf i fod tu faes I gaerau'r ddinas noddfa. Dysgwyl yr wyf, a hyn bob cam, Fel gwyliwr am y boreu; I brofi cryfder braich dy ras, A'm tyn o'm hatgas feiau. Y galon gareg, gyndyn, wael, Gâd i mi gael ei newid; Y galon gig rho imi'n glau, Can's felly mae d'addewid.William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Blwyddyn y carcharorion caeth Dy babell di mor hyfryd yw (Prys/Williams) Dy Babell Di mor hyfryd yw (W Williams) Darfu fy nerth 'rwy'n llwfrhau Dy ras yw'm gobaith O fy Nuw Ffarwèl mi âf yn mlaen i'r wlad Mi nesaf atat etto'n nes Nid oes heb ollwng gaed yn lli O moes dy law 'r Iorddonen mae Os yw'n gofidiau yn y byd Yn awr y gwn fod Iesu cu Yn Dy gyfammod mae'n fy ngho' |
Where should I turn my face, dear Lord, But to thee thyself? Everything to be seen is of no worth But to make me groan. I will lean more closely upon thee Why should I be downhearted? Telling about thee in every place Raises up the weak. Expecting I am, and this at every step, Like a watchman for the morning, To get to experience the force of thy heavenly grace To bring me out of my hated faults. O lead my feeble soul up, To the place Thou art residing; While travelling long the vast desert, I am truly exhausted. I will approach more closely toward thee :: Expecting I am :: I shall wait henceforth
- - - - - Where shall I turn my face, dear Lord, But to Thee thyself? Everything visible, is of no worth, But to make me groan. If our griefs in the world are To continue until the end; Within heaven this will vanish, Sadness is to be turned to jubilation. The more we get of the heat of the day, The greater there shall be our praise; We may get in place of short and intense affliction, An eternal weight of glory. Then shall God sweeten utterly All the bitter waters of Mara; Then shall turn every bitter stream To wine for the children of Jehovah. The greater be their straits, Even greater shall be their comforts; Their peace sweeter than the comb of honey, Shall flow like the river. - - - - - Where shall I turn my face, dear Lord, But towards thee thyself? Every thing visible, it pays nothing, But makes me groan. In thy covenant, it is my memory, That there are a myriad of promises, Some announcing complete healing Through the merit of thy blood for the sick. I am knocking at thy gate boldly To come in to feast; I am not content to be outside The citadels of the city of refuge. Waiting I am, and this at every step, Like a watchman for the morning; To experience the strength of the arm of thy grace, Which pulls me from my detestable sins. The stubborn, base heart of stone, Let me get it changed; The heart of flesh give me quickly, Since thus is thy promise.tr. 2013,19 Richard B Gillion |
|